P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy’n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Leanne Collis, ar ôl casglu cyfanswm o 50 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae ein merch, Olivia, yn 17 oed ac mae ganddi anghenion iechyd meddygol cymhleth sy’n galw am ofal 24 awr. Mae hi mewn perygl o ddal y feirws angheuol hwn bob dydd heb unrhyw system brofi!!
Llofnodwch, plîs! Mae’r staff cymunedol rydym yn sôn amdanynt yn weithwyr rheng flaen sy’n gofalu am bobl agored i niwed, ac maent yn rhoi’r holl ofal personol ac yn cyflawni tasgau angenrheidiol yn y cartref sy’n ofynnol mewn amgylchedd ysbyty.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae profion wythnosol ar gael ar safleoedd y GIG
Mae profion wythnosol ar gael mewn cartrefi gofal
Mae profion wythnosol ar gael mewn cartrefi preswyl ysgolion arbennig
Rwyf wedi cysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyfeiriodd y mater at ein bwrdd iechyd lleol, ond maent wedi GWRTHOD diogelu Olivia a phrofi ei staff!
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru